Mae’r Ganolfan yn gartref i oriel gelf sy’n arddangos celf a chrefft crewyr lleol sy’n ymgorffori hanfod Canolbarth Cymru, y mae ei thirweddau, amgylcheddau a heddwch yn gyfrwng ysbrydoliaeth hanfodol.
Ceir rhaglen o arddangosfeydd gydol y flwyddyn, a gweithdai a mannau arddangos fel y gall ymwelwyr gyfarfod a rhyngweithio gyda’r crefftwyr.
Ceir man perfformio hefyd ar gyfer cyngherddau.

Ewch i’r dudalen Digwyddiadau i weld beth sydd ar y gweill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos neu gynnal gweithdy yn y Canolfan Treftadaeth a Chelfyddydau, cysylltwch â ni.
Mae gan y canolfan ddiddordeb arbennig mewn cynnal a datblygu crefftau a chynnyrch traddodiadol Canolbarth Cymru.