Yr Ardal

Lleolir Llanwrtyd yn yr Elenydd – cadwyni eang, ysgubol o fryniau tonnog, ceunentydd, rhaeadrau a dyffrynnoedd serth mewn ardal brydferth, annarganfyddedig a phrin ei phoblogaeth.

Llanwrtyd area

Wedi ei lleoli rhwng Parciau Cenedlaethol mwy adnabyddus  yr Wyddfa a Bannau Brycheiniog, mae gan Ganolbarth Cymru beth o dirweddau mwyaf amrywiaethol y wlad; coetiroedd, afonydd, tir ffermio, corstiroedd, rhostiroedd a mynyddoedd.

Mae’n ardal ddelfrydol i gerdded a heicio, beicio mynydd a ffordd, nofio gwyllt neu ymlacio ymysg natur dan wybrennau  serennog y nos.

Mae’r canlynol i gyd o fewn cyrraedd hawdd i Lanwrtyd a pheidiwch â synnu os mai dim ond chi fydd yno.

Globeflowers, Cae Pwll y Bo Nature Reserve
Cwm Gwesyn
Vicarage Meadows Nature Reserve
Nant Irfon National Nature Reserve
Llyn Brianne Reservoir
Lonely finger post, Garn Dawd
St. Davids’ Church, Llanwrtyd

Blodau’r Glôb, Gwarchodfa Natur Cae Pwll y Bo

Fe’i lleolir 5km i fyny’r afon o Lanwrtyd ar yr Afon Irfon. Mae’n wybyddus am yr arddangosfa ysblennydd o Flodau’r Glôb ar ddechrau’r haf. Yn wreiddiol, roedd yn rhan o fferm Pwll y Bo).
https://www.welshwildlife.org/nature-reserve/cae-pwll-y-bo/

Gwarchodfa Natur Caeau’r Ficerdy

Mae’n gyforiog o sawl math gwahanol o flodau gwyllt lliwgar, clychau’r gog yn y gwanwyn ac yna carped o degeirianau yn yr haf. Fe welwch lawer o bili-palaod a phryfed. Fe’i ceir yn Nyffryn Irfon Valley ac yn eiddo i ficerdy Abergwesyn ar un adeg.
https://www.welshwildlife.org/nature-reserve/vicarage-meadows/

Fforest Irfon (Pwll Bo)

Gallwch ddewis rhwng dwy daith cerdded fer ar gyd yr Afon Ifron. Mae un ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae digon o le i barcio car yno, yn ogystal â meinciau picnic a chyfleusterau barbeciw. Taith gerdded fer sydd o’r fan hon i Bwll Golchi lle arferai’r ffermwyr lleol olchi eu da byw ar y ffordd i’r farchnad.
https://naturalresources.wales/days-out/places-to-visit/mid-wales/irfon-forest-white-bridge/?lang=cy

Cronfa Llyn Brianne

Os dilynnwch yr Afon Irfon i fyny’r dyffryn hardd i Abergwesyn a chymryd y lôn ysblennydd i Risiau’r Diafol fe ddewch i Gronfa Llyn Brianne. Fe’i hadeiladwyd i roi dŵr i ddinasoedd De Cymru a rheoli llif yr Afon Tywi ac mae ei glannau a siâp fjord yn rhoi’r golygfeydd mwyaf trawiadol.
https://undiscovered-wales.co.uk/2020/01/02/llyn-brianne/

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Nant Irfon

Mae  lleithder uchel y coetiroedd deri hynafol yn gartref i’r asgell fraith, tingoch, gwybedog cefnddu, telor penddu a thelor y coed, a dros 400 rhywogaeth o gennau, llysiau’r afu, rhedyn a mwsoglau, gan gynnwys y rhedynach Wilson prin.

Mae ar agor gydol y flwyddyn, ond does dim llwybrau cerdded ffurfiol. Gan y gall y llwybr fod yn arw, mae esgidiau cadarn yn hanfodol. Dylai ymwelwyr fod yn wyliadwrus o byllau dyfnion, tir corsiog ac afonydd cyflym eu llif. Nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn na bygis.
> first-nature.com/waleswildlife/e-nnr-nantirfon

Coedwig Crychan

Lleoliad Coedwig Crychan a Choedwig Hanner Ffordd gyfagos yw’r cefn gwlad godidog sydd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Cambrian.

Mae milltiroedd o lwybrau a gyferbwyntiwyd yn eich cymryd trwy geunentydd glaswelltog, heddychlon, ar hyd hen ffyrdd y porthmyn a heibio rhaeadrau byrlymus, gan fwynhau golygfeydd godidog y mynyddoedd amgylchynnol.

Ceir coedydd amrywiol o dderwen, onnen, ffawydden a chollen gynhenid y goedwig hynafol wreiddiol, i’r conifferau a fewnforiwyd, sydd oll yn meddu ar eu prydferthwch eu hunain.

Yn ddibynnol ar y tymhorau, gall y lliwiau amrywio o wyn gaeafol y lili wen fach,  arlliw melyn y cenin pedr a’r eithin, gwawr glas ysblennydd miloedd o glychau’r gog, a melyngoch euraidd dail yr hydref.
> crychanforest.org.uk

Rheilffordd Calon Cymru

Am 121 milltir rhwng Abertawe a’r Amwythig, mae gwledd o olygfeydd panoramig o’r trên yn cynnwys yr aber Llwchwr hardd ger Llanelli, afon ystumiol Tywi rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, y barcud coch yn yr awyr uwchben bryniau’r Epynt ger Llanwrtyd, Fforest Radnor rhwng Llandrindod a Threfyclo, a ffindiroedd pell Gororau Lloegr.

Bydd  teithwyr y tro cyntaf yn llawn edmygedd ac ni fydd angen atgoffa teithwyr cyfarwydd am y prydferthwch garw, y pentrefi heddychlon a’r trefi ffynhonnau Fictoraidd sydd fel addurn o gadwyn perlau ar hyd un o leiniau mwyaf prydferth Prydain Fawr.

Traphontydd  trawiadol Cynghordy a Chnwclas yw dwy o’r saith bont a groesir ar daith sydd hefyd yn cynnwys chwe thwnel.
> heart-of-wales.co.uk