Amdanom

Mae Canolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Ardal yn bodoli i gofnodi a hyrwyddo hanes, diwylliant a threftadaeth yr ardal hon yng nghanolbarth Cymru.

Fe’i cartrefir mewn Capel Cynulleidfaol a adnewyddwyd yn llwyr a saif ger canol Llanwrtyd.

Grŵp o wirfoddolwyr sy’n cynnal y prosiect. Pan gaeodd drysau’r Capel i addolwyr yn 2009 dechreuodd y gwirfoddolwyr hyn ar ymgyrch i’w arbed.

Wedi sawl blwyddyn o godi arian a gwaith caled agorodd y Ganolfan ei drysau unwaith eto ym mis Mai 2016.

Mae hefyd yn gartref i oriel gelf, cynhelir digwyddiadau yno ac mae’n gartref i’r Grŵp Adnoddau Hanes sy’n parhau i gofnodi delweddau ac atgofion ar gyfer cenedlaethau o ymwelwyr a thrigolion y dyfodol.