Canolfan Ymwelwyr

Mae arddangosiadau rhyngweithiol tu fewn i’r capel a addaswyd a moderneiddiwyd yn  rhagorol, yn dangos hanes y rhan hwn o Gymru a’r dref fel ardal dwristaidd bwysig pan oedd yn dref ffynhonnau.

Mae ymweld â Chanolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Ardal yn mynd â chi ar daith trwy hanes y dref fach hon a’r cyffiniau.

Cewch groeso cynnes a darganfod sut yr estynnwyd y croeso hwn i dwristiaid a theithwyr ers cyfnod maith.

Trwy gyfrwng mapiau rhyngweithiol gallwch weld twf cyflym y dref a darganfod mannau allweddol ei hanes.

Gallwch chwarae atgofion a recordiwyd gan drigolion lleol er mwyn cael mewnwelediad i fywyd dyddiol sydd nawr ar goll.

Gall ymwelwyr iau fod yn dditectifs wrth iddynt ‘Ddilyn y Broga’ i gwblhau cwis.

Os ydych wedi clywed am Lanwrtyd, mwy na thebyg rydych yn meddwl amdano fel cartref cystadleuaeth chwaraeon anarferol. Felly, beth am ddod i weld pam mae ymwelwyr o bedwar ban byd yn teithio yma i nofio mewn cors dywyll neu gwrso ceffyl ar draws cefn gwlad!