Cartref

Croesi i Ganolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Cyffiniau.

Mae’r Ganolfan yn rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio hanes y dref unigryw hon yng Nghanolbarth Cymru a chrwydro o gwmpas oriel gelf.

Mae’r ddau mewn Capel Cynulleidfaol o’r 19eg ganrif sydd wedi ei drawsnewid yn hyfryd.

Disgrifiwyd Llanwrtyd unwaith fel un oedd yn  “cynnwys bythynnod to gwellt un llawr gyda dwy ystafell a ffenest atig tua maint sbectol Mr Pickwick”.

Yna newidiodd ei ffawd yn ddirfawr wedi darganfod “ffynnon sylffwr orau’r deyrnas” – a dyfodiad y rheilffordd.

Ers hynny – am dros ddau gan mlynedd – mae’r dref wedi croesawu ymwelwyr.

Daethant i “gymryd y dyfroedd” a mwynhau atyniadau niferus y dref. Y dyddiau hyn, mae’n denu merlotwyr, cerddwyr a beicwyr mynydd.

Maent oll yn dod i brofi heddwch a thawelwch cefn gwlad.

Yn ddiweddarach, mae’r dref wedi dod yn enwog fel canolfan digwyddiadau chwaraeon anarferol.

Canolfan Ymwelwyr

Mae arddangosiadau rhyngweithiol tu fewn i’r capel a addaswyd a moderneiddiwyd yn  rhagorol, yn dangos hanes y rhan hwn o Gymru a’r dref fel ardal dwristaidd bwysig pan oedd yn dref ffynhonnau.

Mae ymweld â Chanolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Ardal yn mynd â chi ar daith trwy hanes y dref fach hon a’r cyffiniau.

Cewch groeso cynnes a darganfod sut yr estynnwyd y croeso hwn i dwristiaid a theithwyr ers cyfnod maith.

Trwy gyfrwng mapiau rhyngweithiol gallwch weld twf cyflym y dref a darganfod mannau allweddol ei hanes.

Gallwch chwarae atgofion a recordiwyd gan drigolion lleol er mwyn cael mewnwelediad i fywyd dyddiol sydd nawr ar goll.

Gall ymwelwyr iau fod yn dditectifs wrth iddynt ‘Ddilyn y Broga’ i gwblhau cwis.

Os ydych wedi clywed am Lanwrtyd, mwy na thebyg rydych yn meddwl amdano fel cartref cystadleuaeth chwaraeon anarferol. Felly, beth am ddod i weld pam mae ymwelwyr o bedwar ban byd yn teithio yma i nofio mewn cors dywyll neu gwrso ceffyl ar draws cefn gwlad!

Oriel Gelf

Mae’r Ganolfan yn gartref i oriel gelf sy’n arddangos celf a chrefft crewyr lleol sy’n ymgorffori hanfod Canolbarth Cymru, y mae ei thirweddau, amgylcheddau a heddwch yn gyfrwng ysbrydoliaeth hanfodol.
Ceir rhaglen o arddangosfeydd gydol y flwyddyn, a gweithdai a mannau arddangos fel y gall ymwelwyr gyfarfod a rhyngweithio gyda’r crefftwyr.

Ceir man perfformio hefyd ar gyfer cyngherddau.

Ollie West Band

Ewch i’r dudalen Digwyddiadau i weld beth sydd ar y gweill.

Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos neu gynnal gweithdy yn y Canolfan Treftadaeth a Chelfyddydau, cysylltwch â ni.

Mae gan y canolfan ddiddordeb arbennig mewn cynnal a datblygu crefftau  a chynnyrch traddodiadol Canolbarth Cymru.

Blog

Covid-19 Closure

Unfortunately the ongoing situation with Coronavirus/Covid 19 has meant the Heritage & Arts Centre has not been able to open this season. This decision was not taken lightly but was done so in order to keep both visitors and staff safe during these uncertain times. It is very much hoped that the Centre will be …

Five years on

Following a very successful year in 2019 the Llanwrtyd & District Heritage and Arts Centre opens for its fifth season at the beginning of April. ‘Our reputation is growing as a Centre providing not only a detailed insight into the heritage of the town and surrounding area with additional archive material available for research, but …

Give a Heritage Centre Calendar for Christmas

Stuck for a present for friends & family this Christmas? Why not get them a 2020 Heritage Centre Calendar. Brighten up any home and also help support Llanwrtyd & District Heritage and Arts Centre. Each month shows Llanwrtyd and the surrounding area at it’s best throughout the year. The Calendar is available from the Heritage …

Ffeindwch a chysylltwch a ni

Ffoniwch 01591 610067

Canolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Cyffiniau, Heol y Ffos, Llanwrtyd LD5 4RG, DU.

Lleolir y ganolfan mewn Capel Cynulleidfaol a drawsnewidiwyd sydd ar yr A483 yng nghanol y dref. Mae Gorsaf Llanwrtyd ar Reilffordd Calon Cymru.

Map of how to find Llanwrtyd Wells visitor centre

Os ydych am holi i drefnu ymweliad unigol neu grŵp, os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynnwys y ganolfan neu os ydych yn arlunydd a hoffai arddangos yn yr Oriel Gelf, defnyddiwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.

Mae’r Canolfan Treftadaeth bob amser yn awyddus i glywed gan ymwelwyr neu’r rheiny â theulu o’r ardal sydd â storiâu, lluniau neu bethau cofiadwy y byddent yn hapus i’w rhannu gyda’r canolfan.