Croesi i Ganolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Cyffiniau.
Mae’r Ganolfan yn rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio hanes y dref unigryw hon yng Nghanolbarth Cymru a chrwydro o gwmpas oriel gelf.
Mae’r ddau mewn Capel Cynulleidfaol o’r 19eg ganrif sydd wedi ei drawsnewid yn hyfryd.
Disgrifiwyd Llanwrtyd unwaith fel un oedd yn “cynnwys bythynnod to gwellt un llawr gyda dwy ystafell a ffenest atig tua maint sbectol Mr Pickwick”.
Yna newidiodd ei ffawd yn ddirfawr wedi darganfod “ffynnon sylffwr orau’r deyrnas” – a dyfodiad y rheilffordd.
Ers hynny – am dros ddau gan mlynedd – mae’r dref wedi croesawu ymwelwyr.
Daethant i “gymryd y dyfroedd” a mwynhau atyniadau niferus y dref. Y dyddiau hyn, mae’n denu merlotwyr, cerddwyr a beicwyr mynydd.
Maent oll yn dod i brofi heddwch a thawelwch cefn gwlad.
Yn ddiweddarach, mae’r dref wedi dod yn enwog fel canolfan digwyddiadau chwaraeon anarferol.
Mae’r ganolfan yn ddibynnol ar roddion i’w chadw ar agor a gwerthfawrogir unrhyw gefnogaeth a wneir naill ai yn ystod eich ymweliad gydag arian parod neu gerdyn neu drwy ddefnyddio’r dudalen ‘Just Giving’ gan ddefnyddio’r botwm isod.