{"id":221,"date":"2017-04-12T09:35:46","date_gmt":"2017-04-12T09:35:46","guid":{"rendered":"http:\/\/history-arts-wales.org.uk\/?page_id=221"},"modified":"2022-03-22T11:06:38","modified_gmt":"2022-03-22T11:06:38","slug":"yr-ardal","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/yr-ardal\/","title":{"rendered":"Yr Ardal"},"content":{"rendered":"<p>Lleolir Llanwrtyd yn yr Elenydd \u2013 cadwyni eang, ysgubol o fryniau tonnog, ceunentydd, rhaeadrau a dyffrynnoedd serth mewn ardal brydferth, annarganfyddedig a phrin ei phoblogaeth.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/abergwesyn-bluebells.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-160 size-full\" src=\"http:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/abergwesyn-bluebells.jpg\" alt=\"Llanwrtyd area\" width=\"2048\" height=\"620\" data-id=\"160\" \/><\/a><\/p>\n<p>Wedi ei lleoli rhwng Parciau Cenedlaethol mwy adnabyddus\u00a0 yr Wyddfa a Bannau Brycheiniog, mae gan Ganolbarth Cymru beth o dirweddau mwyaf amrywiaethol y wlad; coetiroedd, afonydd, tir ffermio, corstiroedd, rhostiroedd a mynyddoedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ardal ddelfrydol i gerdded a heicio, beicio mynydd a ffordd, nofio gwyllt neu ymlacio ymysg natur dan wybrennau\u00a0 serennog y nos.<\/p>\n<p>Mae\u2019r canlynol i gyd o fewn cyrraedd hawdd i Lanwrtyd a pheidiwch \u00e2 synnu os mai dim ond chi fydd yno.<\/p>\n<div tabindex=\"0\" class=\"cycloneslider cycloneslider-template-standard cycloneslider-width-responsive\" id=\"cycloneslider-llanwrtyd-wells-area-1\" style=\"max-width:960px\" > <div class=\"cycloneslider-slides cycle-slideshow\" data-cycle-allow-wrap=\"true\" data-cycle-dynamic-height=\"off\" data-cycle-auto-height=\"960:600\" data-cycle-auto-height-easing=\"null\" data-cycle-auto-height-speed=\"250\" data-cycle-delay=\"0\" data-cycle-easing=\"\" data-cycle-fx=\"fade\" data-cycle-hide-non-active=\"true\" data-cycle-log=\"false\" data-cycle-next=\"#cycloneslider-llanwrtyd-wells-area-1 .cycloneslider-next\" data-cycle-pager=\"#cycloneslider-llanwrtyd-wells-area-1 .cycloneslider-pager\" data-cycle-pause-on-hover=\"true\" data-cycle-prev=\"#cycloneslider-llanwrtyd-wells-area-1 .cycloneslider-prev\" data-cycle-slides=\"&gt; div\" data-cycle-speed=\"1000\" data-cycle-swipe=\"1\" data-cycle-tile-count=\"7\" data-cycle-tile-delay=\"100\" data-cycle-tile-vertical=\"true\" data-cycle-timeout=\"4000\" > <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/poppies-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">Globeflowers, Cae Pwll y Bo Nature Reserve<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/valley-view-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">Cwm Gwesyn<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/fields-and-fells-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">Vicarage Meadows Nature Reserve<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/rivers-and-fields-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">Nant Irfon National Nature Reserve<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/llyn-brianne-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">Llyn Brianne Reservoir<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/old-sign-on-the-moors-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">Lonely finger post, Garn Dawd<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-slide cycloneslider-slide-image\" > <img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/02\/chapel-in-the-snow-960x600.jpg\" alt=\"\" title=\"\" \/> <div class=\"cycloneslider-caption\"> <div class=\"cycloneslider-caption-title\">St. Davids\u2019 Church, Llanwrtyd<\/div> <div class=\"cycloneslider-caption-description\"><\/div> <\/div> <\/div> <\/div> <div class=\"cycloneslider-pager\"><\/div> <a href=\"#\" class=\"cycloneslider-prev\"> <span class=\"arrow\"><\/span> <\/a> <a href=\"#\" class=\"cycloneslider-next\"> <span class=\"arrow\"><\/span> <\/a> <\/div>\n<h3>Blodau\u2019r Gl\u00f4b, Gwarchodfa Natur Cae Pwll y Bo<\/h3>\n<p>Fe\u2019i lleolir 5km i fyny\u2019r afon o Lanwrtyd ar yr Afon Irfon. Mae\u2019n wybyddus am yr arddangosfa ysblennydd o Flodau\u2019r Gl\u00f4b ar ddechrau\u2019r haf. Yn wreiddiol, roedd yn rhan o fferm Pwll y Bo).<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.welshwildlife.org\/nature-reserve\/cae-pwll-y-bo\/\">https:\/\/www.welshwildlife.org\/nature-reserve\/cae-pwll-y-bo\/<\/a><\/p>\n<h3>Gwarchodfa Natur Caeau\u2019r Ficerdy<\/h3>\n<p>Mae\u2019n gyforiog o sawl math gwahanol o flodau gwyllt lliwgar, clychau\u2019r gog yn y gwanwyn ac yna carped o degeirianau yn yr haf. Fe welwch lawer o bili-palaod a phryfed. Fe\u2019i ceir yn Nyffryn Irfon Valley ac yn eiddo i ficerdy Abergwesyn ar un adeg.<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.welshwildlife.org\/nature-reserve\/vicarage-meadows\/\">https:\/\/www.welshwildlife.org\/nature-reserve\/vicarage-meadows\/<\/a><\/p>\n<h3>Fforest Irfon (Pwll Bo)<\/h3>\n<p>Gallwch ddewis rhwng dwy daith cerdded fer ar gyd yr Afon Ifron. Mae un ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae digon o le i barcio car yno, yn ogystal \u00e2 meinciau picnic a chyfleusterau barbeciw. Taith gerdded fer sydd o\u2019r fan hon i Bwll Golchi lle arferai\u2019r ffermwyr lleol olchi eu da byw ar y ffordd i\u2019r farchnad.<br \/>\n<a href=\"https:\/\/naturalresources.wales\/days-out\/places-to-visit\/mid-wales\/irfon-forest-white-bridge\/?lang=cy\">https:\/\/naturalresources.wales\/days-out\/places-to-visit\/mid-wales\/irfon-forest-white-bridge\/?lang=cy<\/a><\/p>\n<h3>Cronfa Llyn Brianne<\/h3>\n<p>Os dilynnwch yr Afon Irfon i fyny\u2019r dyffryn hardd i Abergwesyn a chymryd y l\u00f4n ysblennydd i Risiau\u2019r Diafol fe ddewch i Gronfa Llyn Brianne. Fe\u2019i hadeiladwyd i roi d\u0175r i ddinasoedd De Cymru a rheoli llif yr Afon Tywi ac mae ei glannau a si\u00e2p fjord yn rhoi\u2019r golygfeydd mwyaf trawiadol.<br \/>\n<a href=\"https:\/\/undiscovered-wales.co.uk\/2020\/01\/02\/llyn-brianne\/\">https:\/\/undiscovered-wales.co.uk\/2020\/01\/02\/llyn-brianne\/<\/a><\/p>\n<h3>Gwarchodfa Natur Genedlaethol Nant Irfon<\/h3>\n<p>Mae\u00a0 lleithder uchel y coetiroedd deri hynafol yn gartref i\u2019r asgell fraith, tingoch, gwybedog cefnddu, telor penddu a thelor y coed, a dros 400 rhywogaeth o gennau, llysiau\u2019r afu, rhedyn a mwsoglau, gan gynnwys y rhedynach Wilson prin.<\/p>\n<p>Mae ar agor gydol y flwyddyn, ond does dim llwybrau cerdded ffurfiol. Gan y gall y llwybr fod yn arw, mae esgidiau cadarn yn hanfodol. Dylai ymwelwyr fod yn wyliadwrus o byllau dyfnion, tir corsiog ac afonydd cyflym eu llif. Nid yw\u2019n addas ar gyfer cadeiriau olwyn na bygis.<br \/>\n&gt; <a href=\"http:\/\/www.first-nature.com\/waleswildlife\/e-nnr-nantirfon.php\">first-nature.com\/waleswildlife\/e-nnr-nantirfon<\/a><\/p>\n<h3>Coedwig Crychan<\/h3>\n<p>Lleoliad Coedwig Crychan a Choedwig Hanner Ffordd gyfagos yw\u2019r cefn gwlad godidog sydd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Cambrian.<\/p>\n<p>Mae milltiroedd o lwybrau a gyferbwyntiwyd yn eich cymryd trwy geunentydd glaswelltog, heddychlon, ar hyd hen ffyrdd y porthmyn a heibio rhaeadrau byrlymus, gan fwynhau golygfeydd godidog y mynyddoedd amgylchynnol.<\/p>\n<p>Ceir coedydd amrywiol o dderwen, onnen, ffawydden a chollen gynhenid y goedwig hynafol wreiddiol, i\u2019r conifferau a fewnforiwyd, sydd oll yn meddu ar eu prydferthwch eu hunain.<\/p>\n<p>Yn ddibynnol ar y tymhorau, gall y lliwiau amrywio o wyn gaeafol y lili wen fach,\u00a0 arlliw melyn y cenin pedr a\u2019r eithin, gwawr glas ysblennydd miloedd o glychau\u2019r gog, a melyngoch euraidd dail yr hydref.<br \/>\n&gt; <a href=\"http:\/\/www.crychanforest.org.uk\/\">crychanforest.org.uk<\/a><\/p>\n<h3>Rheilffordd Calon Cymru<\/h3>\n<p>Am 121 milltir rhwng Abertawe a\u2019r Amwythig, mae gwledd o olygfeydd panoramig o\u2019r tr\u00ean yn cynnwys yr aber Llwchwr hardd ger Llanelli, afon ystumiol Tywi rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, y barcud coch yn yr awyr uwchben bryniau\u2019r Epynt ger Llanwrtyd, Fforest Radnor rhwng Llandrindod a Threfyclo, a ffindiroedd pell Gororau Lloegr.<\/p>\n<p>Bydd\u00a0 teithwyr y tro cyntaf yn llawn edmygedd ac ni fydd angen atgoffa teithwyr cyfarwydd am y prydferthwch garw, y pentrefi heddychlon a\u2019r trefi ffynhonnau Fictoraidd sydd fel addurn o gadwyn perlau ar hyd un o leiniau mwyaf prydferth Prydain Fawr.<\/p>\n<p>Traphontydd\u00a0 trawiadol Cynghordy a Chnwclas yw dwy o\u2019r saith bont a groesir ar daith sydd hefyd yn cynnwys chwe thwnel.<br \/>\n&gt; <a href=\"http:\/\/www.heart-of-wales.co.uk\/\">heart-of-wales.co.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Lleolir Llanwrtyd yn yr Elenydd \u2013 cadwyni eang, ysgubol o fryniau tonnog, ceunentydd, rhaeadrau a dyffrynnoedd serth mewn ardal brydferth, annarganfyddedig a phrin ei phoblogaeth. Wedi ei lleoli rhwng Parciau Cenedlaethol mwy adnabyddus\u00a0 yr Wyddfa a Bannau Brycheiniog, mae gan Ganolbarth Cymru beth o dirweddau mwyaf amrywiaethol y wlad; coetiroedd, afonydd, tir ffermio, corstiroedd, rhostiroedd &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/yr-ardal\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Yr Ardal&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"saved_in_kubio":false,"footnotes":""},"class_list":["post-221","page","type-page","status-publish","hentry"],"kubio_ai_page_context":{"short_desc":"","purpose":"general"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/221","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=221"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/221\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1309,"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/221\/revisions\/1309"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/history-arts-wales.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=221"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}