Lleolir Llanwrtyd yn yr Elenydd – cadwyni eang, ysgubol o fryniau tonnog, ceunentydd, rhaeadrau a dyffrynnoedd serth mewn ardal brydferth, annarganfyddedig a phrin ei phoblogaeth.
Wedi ei lleoli rhwng Parciau Cenedlaethol mwy adnabyddus yr Wyddfa a Bannau Brycheiniog, mae gan Ganolbarth Cymru beth o dirweddau mwyaf amrywiaethol y wlad; coetiroedd, afonydd, tir ffermio, corstiroedd, rhostiroedd a mynyddoedd.
Mae’n ardal ddelfrydol i gerdded a heicio, beicio mynydd a ffordd, nofio gwyllt neu ymlacio ymysg natur dan wybrennau serennog y nos.
Mae’r canlynol i gyd o fewn cyrraedd hawdd i Lanwrtyd a pheidiwch â synnu os mai dim ond chi fydd yno.
Blodau’r Glôb, Gwarchodfa Natur Cae Pwll y Bo
Fe’i lleolir 5km i fyny’r afon o Lanwrtyd ar yr Afon Irfon. Mae’n wybyddus am yr arddangosfa ysblennydd o Flodau’r Glôb ar ddechrau’r haf. Yn wreiddiol, roedd yn rhan o fferm Pwll y Bo).
https://www.welshwildlife.org/nature-reserve/cae-pwll-y-bo/
Gwarchodfa Natur Caeau’r Ficerdy
Mae’n gyforiog o sawl math gwahanol o flodau gwyllt lliwgar, clychau’r gog yn y gwanwyn ac yna carped o degeirianau yn yr haf. Fe welwch lawer o bili-palaod a phryfed. Fe’i ceir yn Nyffryn Irfon Valley ac yn eiddo i ficerdy Abergwesyn ar un adeg.
https://www.welshwildlife.org/nature-reserve/vicarage-meadows/
Fforest Irfon (Pwll Bo)
Gallwch ddewis rhwng dwy daith cerdded fer ar gyd yr Afon Ifron. Mae un ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae digon o le i barcio car yno, yn ogystal â meinciau picnic a chyfleusterau barbeciw. Taith gerdded fer sydd o’r fan hon i Bwll Golchi lle arferai’r ffermwyr lleol olchi eu da byw ar y ffordd i’r farchnad.
https://naturalresources.wales/days-out/places-to-visit/mid-wales/irfon-forest-white-bridge/?lang=cy
Cronfa Llyn Brianne
Os dilynnwch yr Afon Irfon i fyny’r dyffryn hardd i Abergwesyn a chymryd y lôn ysblennydd i Risiau’r Diafol fe ddewch i Gronfa Llyn Brianne. Fe’i hadeiladwyd i roi dŵr i ddinasoedd De Cymru a rheoli llif yr Afon Tywi ac mae ei glannau a siâp fjord yn rhoi’r golygfeydd mwyaf trawiadol.
https://undiscovered-wales.co.uk/2020/01/02/llyn-brianne/
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Nant Irfon
Mae lleithder uchel y coetiroedd deri hynafol yn gartref i’r asgell fraith, tingoch, gwybedog cefnddu, telor penddu a thelor y coed, a dros 400 rhywogaeth o gennau, llysiau’r afu, rhedyn a mwsoglau, gan gynnwys y rhedynach Wilson prin.
Mae ar agor gydol y flwyddyn, ond does dim llwybrau cerdded ffurfiol. Gan y gall y llwybr fod yn arw, mae esgidiau cadarn yn hanfodol. Dylai ymwelwyr fod yn wyliadwrus o byllau dyfnion, tir corsiog ac afonydd cyflym eu llif. Nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn na bygis.
> first-nature.com/waleswildlife/e-nnr-nantirfon
Coedwig Crychan
Lleoliad Coedwig Crychan a Choedwig Hanner Ffordd gyfagos yw’r cefn gwlad godidog sydd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Cambrian.
Mae milltiroedd o lwybrau a gyferbwyntiwyd yn eich cymryd trwy geunentydd glaswelltog, heddychlon, ar hyd hen ffyrdd y porthmyn a heibio rhaeadrau byrlymus, gan fwynhau golygfeydd godidog y mynyddoedd amgylchynnol.
Ceir coedydd amrywiol o dderwen, onnen, ffawydden a chollen gynhenid y goedwig hynafol wreiddiol, i’r conifferau a fewnforiwyd, sydd oll yn meddu ar eu prydferthwch eu hunain.
Yn ddibynnol ar y tymhorau, gall y lliwiau amrywio o wyn gaeafol y lili wen fach, arlliw melyn y cenin pedr a’r eithin, gwawr glas ysblennydd miloedd o glychau’r gog, a melyngoch euraidd dail yr hydref.
> crychanforest.org.uk
Rheilffordd Calon Cymru
Am 121 milltir rhwng Abertawe a’r Amwythig, mae gwledd o olygfeydd panoramig o’r trên yn cynnwys yr aber Llwchwr hardd ger Llanelli, afon ystumiol Tywi rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, y barcud coch yn yr awyr uwchben bryniau’r Epynt ger Llanwrtyd, Fforest Radnor rhwng Llandrindod a Threfyclo, a ffindiroedd pell Gororau Lloegr.
Bydd teithwyr y tro cyntaf yn llawn edmygedd ac ni fydd angen atgoffa teithwyr cyfarwydd am y prydferthwch garw, y pentrefi heddychlon a’r trefi ffynhonnau Fictoraidd sydd fel addurn o gadwyn perlau ar hyd un o leiniau mwyaf prydferth Prydain Fawr.
Traphontydd trawiadol Cynghordy a Chnwclas yw dwy o’r saith bont a groesir ar daith sydd hefyd yn cynnwys chwe thwnel.
> heart-of-wales.co.uk